31 Gorffennaf 2015

 

Annwyl Gyfeillion

Etifeddiaeth y Pwyllgor

Gan ein bod yn agosáu at ddiwedd y pedwerydd Cynulliad, mae'r Pwyllgor wedi penderfynu adolygu'r gwaith a gyflawnwyd ers ei greu yn 2011. Fel rhan o'r gwaith etifeddol hwn, byddwn yn edrych yn ôl ar ein hymchwiliadau i bolisi a deddfwriaeth â'r bwriad o asesu effeithiau'r casgliadau a'r argymhellion a geir yn ein hadroddiadau amrywiol.

 

Er mwyn helpu gyda'r gwaith hwnnw, rydym wedi ysgrifennu at bob Gweinidog sydd â chyfrifoldebau yn ein portffolio, yn gofyn iddynt ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn yr argymhellion yn ein hadroddiadau perthnasol (mae manylion am yr adroddiadau perthnasol yn y llythyrau). Cyhoeddir yr ymatebion ar wefan y Pwyllgor. Hefyd, rydym wedi gwahodd y Gweinidogion i roi tystiolaeth ar lafar i'r Pwyllgor ar ddechrau tymor yr hydref.  Mae ein rhaglen waith yn nodi'r dyddiadau ar gyfer hyn.

 

Cyn y sesiynau tystiolaeth hyn, byddem yn croesawu eich safbwynt ar y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn y meysydd yr ymdrinnir â nhw yn ein hadroddiadau. Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, dylech wneud hynny erbyn dydd Mercher 2 Medi 2015, gan nodi'n glir pa adroddiad ac argymhellion y mae eich sylwadau'n ymwneud â nhw.

 

 

Yn gywir,

Christine Chapman AC / AM

Cadeirydd / Chair